Enghraifft o'r canlynol | llywodraethiaethau Palesteina |
---|---|
Poblogaeth | 75,444 |
Gwlad | Palesteina |
Rhan o | Gwladwriaeth Palesteina |
Gwladwriaeth | Gwladwriaeth Palesteina |
Rhanbarth | y Lan Orllewinol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Un o 16 Llywodraethiaethau Palesteina yw Llywodraethiaeth Salfit (Arabeg محافظة سلفيت, Muḥāfaẓat Salfīt). Mae wedi'i leoli yng ngogledd-orllewin y Lan Orllewinol. Prifddinas yr ardal neu Muhfaza (sedd) yw dinas Salfit.
Yn ôl Swyddfa Ystadegau Ganolog Palestina, roedd gan y llywodraethiaeth 75,444 o drigolion yng nghanol 2017. Erbyn 2020 cododd y nifer hon i 80,200 o drigolion.[1]
Mae Mur Israelaidd y Lan Orllewinol yn torri ar draws rhan helaeth o'r Llywodraethiaeth.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search